A new “black bag presentation area” at the Briton Ferry Household Waste and Recycling Centre has been a big success with 1.5 tonnes of recyclable material being taken from waste brought into the site in the first week of the new operation alone.
Under the new arrangements, residents bringing in black bags or general waste are now being asked to remove recyclable items - so users of the centre are asked to sort their waste before bringing it in to save time.
The Briton Ferry presentation area came into operation on November 26th with the huge 1.5 tonnes of recyclable material reclaimed in the first week showing how effective the new system can be.
Cllr Ted Latham, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetscene and Engineering said: “The vast majority of residents have been co-operative with the new system and we thank them for their understanding and willingness to go along with the changes.
“Residents now need to remove recyclable materials like glass, paper, cardboard, tins and plastic from their bags before bringing them to the site – and it seems many users of the site are already getting used to the new system.”
He added: “Recycling saves energy and water, lowers pollution and greenhouse gas emissions, improves air and water quality, preserves landfill space and conserves natural resources. It also helps prevent plastics polluting and killing wildlife in our precious oceans and rivers.”
An earlier black bag presentation area has already been successfully introduced at the Council’s Household Waste and Recycling Centre in Margam Street, Cymmer.
Experience of black bag presentation areas in neighbouring counties has shown these dramatically increase recycling rates.
The presentation areas are part of a range of changes being brought in to ensure the Council meets tough recycling targets set by the Welsh Government requiring us all to recycle 64% of waste by 2019/20 and 70% by 2025.
Other changes include:
• The introduction of more recycling litter bins in town centres and other high footfall areas like parks in the coming months.
• Expansion of the Re-Use shop in Briton Ferry (due for completion in the New Year) where a host of unwanted treasures like TVs, furniture, gym equipment, tea sets etc can be bought at bargain prices.
• Changing the way green waste is collected from the current single use plastic bags to re-usable sacks.
• Implementation and enforcement of the new “no side waste” rule, which means no black bags can be left alongside wheelie bins. In black sack areas the number of bags will be limited to three.
• A major drive to cut food waste by encouraging greater use of food recycling caddies (as food is by far the biggest category of waste people fail to recycle).
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
System sachau du newydd yn dangos ei gwerth - mewn wythnos yn unig!
Mae ardal cyflwyno sachau du newydd yng Nghanolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu Llansawel wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gydag 1.5 o dunelli o ddeunydd ailgylchadwy yn cael ei dynnu o wastraff a gyflwynwyd i'r safle yn ystod wythnos gyntaf y system newydd.
Dan y trefniadau newydd, gofynnir bellach i breswylwyr sy'n dod â sachau du neu wastraff cyffredinol i'r safle dynnu eitemau ailgylchadwy ohonynt - felly gofynnir i ddefnyddwyr y ganolfan ddidoli eu gwastraff cyn dod ag ef i'r safle i arbed amser.
Dechreuodd ardal gyflwyno Llansawel weithredu ar 26 Tachwedd, ac adferwyd y swm enfawr o 1.5 o dunelli o ddeunydd ailgylchadwy yn ystod yr wythnos gyntaf, gan ddangos effeithiolrwydd y system newydd.
Meddai'r Cynghorydd Ted Latham, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros y Strydlun a Pheirianneg, "Mae'r mwyafrif helaeth o breswylwyr wedi cydweithio â'r system newydd ac rydym yn diolch iddynt am eu dealltwriaeth a'u parodrwydd i gyd-fynd â'r newidiadau.
"Mae angen i breswylwyr bellach dynnu eitemau ailgylchadwy fel gwydr, papur, cardbord, tuniau a phlastig o'u sachau du cyn dod â nhw i'r safle - ac mae'n ymddangos bod llawer o ddefnyddwyr y safle eisoes yn ymgyfarwyddo â'r system newydd."
Ychwanegodd, “Mae ailgylchu'n arbed ynni a dwr, yn lleihau llygredd ac allyriadau nwyon ty gwydr, yn gwella safon aer a dwr, yn arbed lle mewn safleoedd tirlenwi ac yn cadw adnoddau naturiol. Mae hefyd yn helpu i atal plastigion rhag llygru a lladd bywyd gwyllt yn ein moroedd a'n hafonydd gwerthfawr.”
Roedd ardal cyflwyno sachau du eisoes wedi'i chyflwyno'n llwyddiannus cyn hyn yng Nghanolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu'r cyngor yn Stryd Margam, y Cymer.
Mae'r profiad o gyflwyno ardaloedd cyflwyno sachau du mewn siroedd cyfagos wedi dangos eu bod yn cynyddu cyfraddau ailgylchu'n sylweddol.
Mae'r ardaloedd cyflwyno'n rhan o gyfres o newidiadau sy'n cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau bod y cyngor yn bodloni'r targedau ailgylchu llym a osodwyd gan Lywodraeth Cymru sy'n gofyn i ni gyd ailgylchu 64% o wastraff erbyn 2019/2020 a 70% erbyn 2025.
Mae newidiadau eraill yn cynnwys:
Cyflwyno mwy o finiau ar gyfer sbwriel i'w ailgylchu mewn canol trefi ac ardaloedd eraill lle ceir llawer o ymwelwyr, fel parciau, yn y misoedd i ddod.
Ehangu'r siop ailddefnyddio yn Llansawel (y disgwylir iddi gael ei chwblhau yn y flwyddyn newydd) lle gellir prynu llu o drysorau diangen fel setiau teledu, celfi, cyfarpar campfa, setiau te etc. am brisiau rhad.
Newid y ffordd y cesglir gwastraff gwyrdd o'r sachau plastig un defnydd i fagiau ailddefnyddiadwy.
Gweithredu a gorfodi'r rheol "dim gwastraff ar yr ochr", sy'n golygu na ellir gadael sachau du wrth ymyl biniau olwynion. Mewn ardaloedd sachau du bydd nifer y sachau'n cael ei gyfyngu i dair.
Ymgyrch fawr i leihau gwastraff bwyd drwy annog mwy o ddefnydd o'r cynwysyddion ailgylchu bwyd (gan mai bwyd yw'r categori mwyaf o wastraff nad yw pobl yn llwyddo i'w ailgylchu).
More stories