A new solar roof on the popular visitors’ centre at Neath’s Gnoll Country Park has been officially switched on.
The energy producing roof will generate as much electricity as the centre uses – drastically slashing power costs there.
Over the last few years, Neath Port Talbot Council, which runs the country park, has been taking measures to reduce the level of subsidy required to run the attraction.
Work began last year and the new solar power generation scheme was officially switched on by Cllr Ted Latham, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetscene and Engineering, on Monday, January 14th, watched by Brian Warlow, who chairs the Friends of Gnoll Country Park support group.
The scheme includes an alfresco style extension to the visitors’ centre café, the solar panel covered canopy also providing a much needed sheltered seating area and dining extension to the café which currently had insufficient seating during busy periods – the idea being to boost sales from the café from now on.
Users of the visitors’ centre café can also now use chip and pin payments as well as cash after an upgrade.
The project has seen triangular end photovoltaic (PV) panels fixed to the surface of the roof to produce electricity. The solar roof is planned to be the first of a number of green technology initiatives at Gnoll Country Park going forward aimed at developing the visitors’ centre and park generally as an environmental exemplar destination.
The PV installation has a number of benefits including:
• An improved energy performance at the visitor centre
• Demonstrating renewable technology to Park visitors.
• Helping the Council deliver the aims and objectives of the Wellbeing of Future Generations Act.
• A reduced carbon footprint for the park.
Gnoll Country Park is an important site for locals and visitors alike, featuring lakeside and woodland walks, restored formal cascades, a grotto, a coarse fishery, play area, adventure playground and a visitor centre exploring the history and evolution of the estate.
Cllr Latham said: “This is a valuable addition to the existing visitor facilities at the park and hopefully it will now help gain sales from the park’s Café. It will also set a good example by showing how energy generation can become an integral part of new buildings.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Dewch i Barc Gwledig y Gnoll i ymlacio gyda choffi – wedi'i bweru gan yr haul!
Mae to solar newydd ar y ganolfan ymwelwyr boblogaidd ym Mharc Gwledig y Gnoll wedi cael ei roi ymlaen yn swyddogol.
Bydd y to a fydd yn cynhyrchu ynni yn cynhyrchu cymaint o drydan ag a ddefnyddir gan y ganolfan, gan leihau costau ynni'n sylweddol yno.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n cynnal y parc gwledig, wedi bod yn cymryd camau er mwyn lleihau lefel y cymhorthdal y mae ei angen er mwyn cynnal yr atyniad.
Dechreuodd gwaith y llynedd a chafodd y cynllun creu ynni solar newydd ei droi ymlaen yn swyddogol gan y Cyng. Ted Latham, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros y Strydlun a Pheirianneg, ddydd Llun 14 Ionawr yng nghwmni Brian Warlow, Cadeirydd Grwp Cefnogi Cyfeillion Parc Gwledig y Gnoll.
Mae'r cynllun yn cynnwys estyniad awyr agored i gaffi'r ganolfan ymwelwyr, gyda'r canopi a orchuddir â phaneli solar hefyd yn darparu ardal mawr ei hangen i eistedd a bwyta dan do, gan nad oes digon o le i eistedd yn y caffi yn ystod cyfnodau prysur ar hyn o bryd – a'r syniad yw cynyddu gwerthiannau'r caffi.
Mae'r prosiect wedi cynnwys gosod paneli ffotofoltäig trionglog ar arwyneb y to er mwyn cynhyrchu trydan.
Disgwylir i'r to solar fod y cyntaf o nifer o fentrau technoleg werdd wrth symud ymlaen ym Mharc Gwledig y Gnoll gyda'r nod o ddatblygu'r ganolfan ymwelwyr a'r parc yn gyffredinol fel lleoliad amgylcheddol rhagorol.
Mae gan osod paneli ffotofoltäig fanteision amrywiol, gan gynnwys:
• perfformiad ynni gwell yn y ganolfan ymwelwyr
• gallu dangos technoleg adnewyddadwy i ymwelwyr â'r parc
• helpu'r cyngor i gyflawni nodau ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
• lleihau ôl troed carbon y parc.
Mae Parc Gwledig y Gnoll yn safle pwysig i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan gynnwys llwybrau ger y llyn ac yn y coetir, rhaeadrau ffurfiol wedi'u hadfer, groto, pysgodfa fras, ardal chwarae, lle chwarae antur a chanolfan ymwelwyr sy'n archwilio hanes a datblygiad yr ystad.
Meddai'r Cyng. Latham, "Mae hwn yn ychwanegiad gwerthfawr at y cyfleusterau i ymwelwyr sydd eisoes yn y parc a gobeithio y bydd yn helpu i ennill gwerthiannau o gaffi'r parc. Bydd hefyd yn gosod esiampl dda drwy ddangos sut gall creu ynni fod yn rhan annatod o adeiladau newydd."
More stories