The safety of children around schools is paramount to us all and Neath Port Talbot Council believes the vicinity of our schools should be a safe haven and not a threat caused by parking issues.
The Council’s Road Safety Team has carried out a county-wide School Gate Parking campaign in partnership with South Wales Police and the Mid and West Wales Fire and Rescue Service to produce banners to be displayed outside all schools to raise awareness as well as delivering education to all pupils - encouraging them to be a positive influence on those taking them to school.
Enforcement for persistent drivers however appears to be the most effective way to tackle this growing issue.
Neath Port Talbot Council now has its own Camera Enforcement Van which will photograph illegally parked vehicles simply by driving past a school, generating a fixed penalty notice directly to vehicle keepers’ registered addresses.
The van is equipped with two roof-mounted Automatic Number Plate Recognition (ANPR) cameras and two colour cameras to capture video evidence of vehicles whose drivers have chosen to contravene traffic orders across the County Borough. The on-board systems are controlled by one of the Council’s Civil Enforcement Officers using a dashboard-mounted touchscreen.
To promote the safety messages to younger residents, the Council’s Road Safety Team engaged with all Primary School pupils in a competition to name the new vehicle. The winning entry - ‘iPatrol’ - was submitted by Gnoll Primary School pupil Ruby Gilley, aged five, who was presented with a Chromebook sponsored by Videalert by Neath Port Talbot Council Mayor Cllr Dennis Keogh at the Mayor’s Parlour in Port Talbot on Thursday, January 24th.
The Leader of Neath Port Talbot County Borough Council, Cllr Rob Jones, fully supports the new enforcement vehicle, saying: “Indiscriminate and dangerous parking around Neath Port Talbot will no longer be tolerated.
“The mobile enforcement vehicle seeks to challenge those drivers who choose to park on school ‘keep clear’ markings, within clearly defined bus stops and on pedestrian crossings with no thought for the safety of others. It is hoped that this vehicle will help to further ensure greater safety and protection for pedestrians and other road users as we progress through 2019.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Fan Camerâu Gorfodi'n helpu i gadw disgyblion yn ddiogel
Mae diogelwch plant gerllaw ysgolion o'r pwys mwyaf i ni ac mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn credu y dylai cyffiniau ein hysgolion fod yn hafan ddiogel ac nid yn fygythiad oherwydd materion parcio.
Mae Tîm Diogelwch Ffyrdd y cyngor wedi cynnal Ymgyrch Parcio Ger Gatiau Ysgolion ar draws y sir mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru i lunio baneri i'w harddangos y tu allan i bob ysgol i gynyddu ymwybyddiaeth yn ogystal ag addysgu'r holl ddisgyblion - a'u hannog i fod yn ddylanwad cadarnhaol ar y bobl sy'n eu cludo i'r ysgol.
Fodd bynnag, mae'n ymddangos mai'r ffordd fwyaf effeithiol i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol hon yw cymryd camau gorfodi yn erbyn gyrwyr sy'n parhau i wneud hyn.
Mae gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot bellach ei fan Camera Gorfodi ei hun a fydd yn tynnu lluniau troseddwyr sydd wedi parcio'n groes i'r gyfraith drwy yrru heibio ysgol, gan greu Hysbysiad o Gosb Benodol a fydd yn mynd yn syth i gyfeiriad cofrestredig ceidwad y cerbyd.
Mae'r fan yn llawn cyfarpar uwch-dechnoleg a gyflenwyd gan Videalert, un o gyflenwyr arweiniol atebion deallus i orfodi a rheoli traffig y dyfarnwyd y contract iddo ar ôl proses gaffael.
Mae'n cynnwys dau gamera Adnabod Platiau Rhifau'n Awtomatig (ANPR) a dau gamera lliw i ddal tystiolaeth fideo o gerbydau y mae eu gyrwyr wedi dewis mynd yn groes i orchmynion traffig ledled y fwrdeistref sirol.
Rheolir y systemau yn y fan gan un o Swyddogion gorfodi Sifil y cyngor gan ddefnyddio sgrîn gyffwrdd ar y panel deialau.
Er mwyn hybu'r neges ddiogelwch i breswylwyr iau, gofynnodd Tîm Diogelwch Ffyrdd y cyngor i holl ddisgyblion ysgolion cynradd y sir gymryd rhan mewn cystadleuaeth i enwi'r cerbyd newydd. Cyflwynwyd y cynnig buddugol - ‘iPatrol’ - gan ddisgybl o Ysgol Gynradd y Gnoll a dderbyniodd Chromebook, wedi'i noddi gan Videalert, gan Faer Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cyng. Dennis Keogh ym Mharlwr y Maer ym Mhort Talbot ddydd Iau 24 Ionawr.
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y Cyng. Rob Jones, yn cefnogi'r cerbyd gorfodi newydd yn llwyr, ac meddai, "Ni fydd parcio diwahaniaeth a pheryglus o gwmpas Castell-nedd Port Talbot yn cael ei oddef mwyach.
"Mae'r cerbyd gorfodi sydd newydd ei brynu'n ceisio herio'r gyrwyr hynny sy'n dewis parcio ar farciau "Cadwch yn Glir" ysgolion, mewn safleoedd bysus a ddiffinnir yn glir ac ar groesfannau i gerddwyr, heb ystyried diogelwch eraill. Y gobaith yw y bydd y cerbyd hwn yn helpu i sicrhau mwy o ddiogelwch ac amddiffyniad i gerddwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn ystod 2019."
More stories