Free photography workshops are being run in Neath Port Talbot Council’s Craig Gwladus Country Park during every month of 2019 with an associated photo competition which will see the work of winning entrants appearing on a new website.
The workshops are being led by professional photographers Dan Santillo and Nick Jenkins.
Popular Craig Gwladus Country Park, which straddles Cadoxton and Cilfrew in Neath, is predominantly woodland with dramatic rocky outcrops and it enjoys spectacular views over the Neath valley.
The park is rich in unusual wildlife (a millipede new to science was found in the park just a few weeks ago attracting worldwide publicity) and also features old colliery structures, streams and waterfalls as well as a wealth of majestic trees.
The photographic potential in this picturesque country park is wonderful.
There are only 10 places available for each workshop so booking is essential. Priority will be given to anyone who volunteers in the park. To book a place or to find out about volunteer opportunities, contact Lisa Kirman – L.Kirman@npt.gov.uk.
Early workshop dates confirmed so far are 27th Jan, 1st Feb, 9th March and 9th April.
The photo competition running alongside the workshops will have a monthly winner judged by the Friends of Craig Gwladus and the two professional photographers running the workshops.
The photos should be posted on Instagram using the hashtag #CraigGwladusPhotoComp or emailed to l.kirman@npt.gov.uk before the 21st of the month to be considered for that month’s ‘photo of the month’. Winning photos will be used to raise awareness of the variety of wonders to be found in the park and will feature on a new website currently being developed for Craig Gwladus and on our new Instagram page, CraigGwladus.
The photography workshops and monthly competitions are just one of many types of event being run in the park over the year. Please visit www.npt.gov.uk/whatson for a full list.
Subjects include wildlife, history and geology walks, talks and training events as well as the twice monthly woodland skills and action days. The latter is an opportunity for anyone and everyone to help look after the park.
The events have been made possible thanks to £86,000 of funding handed to the park last November with the money coming from National Lottery players through the Heritage Lotttery Fund and Natural Resources Wales as well as Neath Port Talbot Council and the Council’s Members’ Fund (via Councillors Annette Wingrave and Doreen Jones).
The funding is aiding those running the park to establish new nature trails, involve more people in conservation and to throw new light on the park’s fascinating wildlife, geology and industrial heritage.
Councillor Annette Wingrave, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Regeneration and Sustainable Development, said: ”This is a wonderful opportunity for local people to have their photography skills enhanced and competition winners will see their work helping to promote Craig Gwladus Country Park which is a wonderful natural resource for this part of Neath Port Talbot.”
END
NOTES to Editors
About the Heritage Lottery Fund
Thanks to National Lottery players, we invest money to help people across the UK explore, enjoy and protect the heritage they care about - from the archaeology under our feet to the historic parks and buildings we love, from precious memories and collections to rare wildlife. www.hlf.org.uk. Follow us on Twitter, Facebook and Instagram and use #NationalLottery and #HLFsupported.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Sut gallai 2019 fod yn 'Flwyddyn Ffotograffiaeth' i rai ffodus yn y parc gwledig
Cynhelir gweithdai ffotograffiaeth am ddim ym Mharc Gwledig Craig Gwladys Cyngor Castell-nedd Port Talbot bob mis yn 2019 yn ogystal â chystadleuaeth ffotograffiaeth gysylltiedig lle bydd gwaith yr enillwyr yn ymddangos ar wefan newydd.
Cynhelir gweithdai ffotograffiaeth am ddim ym Mharc Gwledig Craig Gwladys Cyngor Castell-nedd Port Talbot bob mis yn 2019 yn ogystal â chystadleuaeth ffotograffiaeth gysylltiedig lle bydd gwaith yr enillwyr yn ymddangos ar wefan newydd.
Cynhelir y gweithdai gan y ffotograffwyr proffesiynol Dan Santillo a Nick Jenkins.
Mae parc gwledig poblogaidd Craig Gwladys, sy'n pontio Llangatwg a Chil-ffriw yng Nghastell-nedd, yn ardal o goetir yn bennaf, gyda brigiadau creigiog dramatig sydd â golygfeydd trawiadol dros Gwm Nedd.
Mae cyfoeth o fywyd gwyllt anghyffredin yn y parc (canfuwyd neidr filtroed newydd i wyddoniaeth yn y parc ychydig wythnosau'n ôl a gafodd gyhoeddusrwydd byd-eang) ac mae hefyd yn cynnwys hen adeileddau pyllau glo, nentydd, rhaeadrau yn ogystal ag amrywiaeth o goed mawreddog.
Mae'r potensial ar gyfer tynnu lluniau yn y parc gwledig godidog yn wych.
Dim ond 10 lle sydd ar gael ym mhob gweithdy felly mae'n rhaid cadw lle ymlaen llaw. Rhoddir blaenoriaeth i unrhyw un sy'n gwirfoddoli yn y parc. I gadw lle neu i gael gwybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli, e-bostiwch Lisa Kirman yn L.Kirman@npt.gov.uk.
Mae dyddiadau'r gweithdai a gadarnhawyd hyd yn hyn fel a ganlyn: 27 Ionawr, 1 Chwefror, 9 Mawrth a 9 Ebrill.
Bydd enillydd bob mis ar gyfer y gystadleuaeth ffotograffiaeth a gynhelir ochr yn ochr â'r gweithdai, a Chyfeillion Graig Gwladys a'r ddau ffotograffydd proffesiynol sy'n cynnal y gweithdy fydd y beirniaid.
Dylid postio'r lluniau ar Instagram gan ddefnyddio'r hashnod #CraigGwladysPhotoComp neu eu hanfon ar e-bost at l.kirman@npt.gov.uk cyn 21ain y mis i'w hystyried ar gyfer 'llun y mis' y mis hwnnw. Bydd y lluniau buddugol yn cael eu defnyddio i gynyddu ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o ryfeddodau y gellir eu gweld yn y parc a byddant yn cael eu cynnwys ar wefan newydd sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd ar gyfer Craig Gwladys a'n tudalen Instagram newydd, CraigGwladus.
Mae'r gweithdai ffotograffiaeth a'r cystadlaethau misol yn un o nifer o ddigwyddiadau a gynhelir yn y parc yn ystod y flwyddyn. Ewch i www.npt.gov.uk/whatson i weld y rhestr lawn.
Mae'r testunau'n cynnwys teithiau cerdded bywyd gwyllt, hanes a daeareg, sgyrsiau a digwyddiadau hyfforddiant yn ogystal â'r diwrnodau sgiliau coetir a gweithredoedd a gynhelir ddwywaith y mis. Mae'r un olaf yn gyfle i unrhyw un gael dod i helpu edrych ar ôl y parc.
Mae'r digwyddiadau'n bosib oherwydd grant gwerth £86,000 a roddwyd i'r parc ym mis Tachwedd y llynedd, gyda'r arian yn dod o chwaraewyr y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri (£51,000), Cyfoeth Naturiol Cymru (£25,000), yn ogystal â Chyngor Castell-nedd Port Talbot (£6,000) a £4,000 o Gronfa Aelodau'r Cyngor (gan y Cynghorwyr Annette Wingrave a Doreen Jones).
Mae'r arian yn helpu'r rheiny sy'n cynnal y parc i sefydlu llwybrau natur newydd, cynnwys mwy o bobl mewn gwaith cadwraeth ac i daflu goleuni newydd ar fywyd gwyllt, daeareg a threftadaeth ddiwydiannol hynod ddiddorol y parc.
Meddai’r Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, "Dyma gyfle gwych i bobl leol gael gwella eu sgiliau ffotograffiaeth a bydd enillwyr y gystadleuaeth yn cael gweld eu gwaith yn helpu i hyrwyddo Parc Gwledig Craig Gwladys, sy'n adnodd naturiol syfrdanol ar gyfer y rhan hon o Gastell-nedd Port Talbot."
DIWEDD
Nodyn i Olygyddion
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn buddsoddi arian er mwyn helpu pobl ar draws y DU i archwilio, mwynhau a diogelu'r dreftadaeth sydd o bwys iddynt - o'r archaeoleg o dan ein traed i'r parciau a'r adeiladau hanesyddol rydym yn meddwl y byd ohonynt, o'r atgofion a'r casgliadau gwerthfawr i fywyd gwyllt prin. www.hlf.org.uk. Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLottery ac #HLFsupported.
I'w ryddhau ar unwaith
Eich cyswllt ar gyfer y datganiad hwn i'r wasg yw media@npt.gov.uk
More stories