Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot heddiw wedi cyhoeddi cynigion diwygiedig ar gyfer arbedion cyllidebol, toriadau a chreu incwm, gan ddangos ei fod wedi gwrando ar adborth gan bobl ledled y fwrdeistref sirol.
Mae'r penawdau'n cynnwys dileu'r cynnig am drosglwyddo fesul cam i weithrediad cymunedol neu gau pedair llyfrgell leol a thynnu'r cynnig i dorri pum swydd amser llawn o'r Gwasanaeth Hawliau Lles yn ei ôl. Mae'r cynnig gwreiddiol i leihau'r cymhorthdal i'r Gwasanaeth Cerdd ar gyfer ysgolion dros y ddwy flynedd nesaf hefyd wedi'i dynnu'n ôl.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Rob Jones,
"Dim ond pan fydd angen ystyried toriadau o'r maint hwn y mae pobl yn sylweddoli cymaint y mae gwasanaethau'r cyngor yn rhan o'u bywydau pob dydd. Roedd y nifer a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar gynigion y gyllideb yn sylweddol uwch eleni o'i gymharu ag ymgynghoriadau'r gorffennol. Dengys hyn pa mor bwysig yw gwasanaethau i bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot ac rwyf am iddynt wybod ein bod yn gwrando, a dyna pam rydym wedi gwneud nifer o ddiwygiadau i'r cynigion gwreiddiol."
Yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus tri mis, derbyniodd y cyngor fwy na 1,000 o ymatebion drwy holiaduron, llythyrau, e-byst a'r cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn gynnydd o 334% o'i gymharu â'r llynedd. Roedd y rhan fwyaf o breswylwyr wedi mynegi pryderon am y toriadau arfaethedig i'r gwasanaethau llyfrgell.
Ychwanegodd y Cyng. Jones,
"Roedd y cynigion gwreiddiol yn cynnwys trosglwyddo fesul cam i weithrediad cymunedol neu gau llyfrgelloedd Baglan, Cwmafan, Glyn-nedd a Sgiwen. Mewn ymateb i'r adborth o'n hymgynghoriad, rydym wedi cael gwared â'r rhan hon o'r cynnig, felly ni fydd toriadau i'r gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac mae adroddiad ar wahân yn cael ei gomisiynu am y Gwasanaeth Llyfrgelloedd."
Bydd y cynnig diwygiedig am arbedion yn erbyn y gwasanaeth llyfrgelloedd yn dal i gynnwys swm o £50m o arbedion cost prydlesu cerbydau a swydd wag.
Mae Hawliau Lles yn faes allweddol arall a gafodd ei ailystyried yn dilyn yr ymgynghoriad. Y cynnig diwygiedig yw i gadw'r gwasanaeth, ond adolygu'n llawn y gwasanaethau cymorth lles a ddarperir gan y cyngor a grwpiau cymunedol eraill yn 2019.
Fodd bynnag, mae'r cyngor wedi amlygu pa mor anoddach ydyw bellach i gydbwyso'r gyllideb heb dorri gwasanaethau hanfodol.
Ychwanegodd y Cyng. Carol Clement-Williams, Aelod y Cabinet dros Gyllid,
"Nid oes neb yn ymuno â'r gwasanaethau cyhoeddus er mwyn gwneud toriadau. Mae'r penderfyniadau y gorfodwyd i ni eu gwneud a'r rhai sy'n ein hwynebu yn y dyfodol yn hynod anodd, ond mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i lunio cyllideb gytbwys bob blwyddyn.
"Rydym yn cydnabod cyfranogaeth y staff a'r undebau llafur yn yr holl ymgyrchoedd sydd wedi helpu i sicrhau gwell setliad ariannol gan Lywodraeth Cymru, ond rhaid i ni ddweud yn swyddogol nad yw'r cyllid ychwanegol, er ei fod yn gam i'r cyfeiriad iawn a groesewir, yn ddigon o hyd. Mae pobl yn aml yn gofyn pam y mae treth y cyngor yn cynyddu pan fo gwasanaethau'n cael eu torri, a'r rheswm am hyn yw am fod y cyni a etifeddwyd o lywodraeth ganolog wedi bod yn anodd iawn i lywodraeth leol, ac os derbynnir y cynigion hyn, bydd y cyfanswm y gorfodwyd i ni dorri o'n cyllideb ers 2010 yn fwy na £90 miliwn.
"Rydym yn rhannu pryderon ein cymunedau ac yn gweithio'n galed i geisio lliniaru'r effaith arnynt. Dyna pam am y tro cyntaf mewn blynyddoedd y bwriedir i'r cyngor ddefnyddio'r £2.255 miliwn o'r Cronfeydd wrth Gefn i gydbwyso'i gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae diwygiadau eraill i'r cynigion gwreiddiol yn cynnwys:
• Arbedion o roi graddfeydd cyflog newydd ar waith ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo - fe'i diwygiwyd i gadw graddau cyflog, ond lleihau oriau gweithredu clybiau brecwast ysgolion i 30 munud, gyda chontractau 45 munud ac oriau cegin yn seiliedig ar nifer y prydau a ddarperir. Bydd diogelu cyflog yn berthnasol yn 2019/20 gydag arbedion o £50m y flwyddyn ganlynol.
• Caiff y cynnig i drosglwyddo rheolaeth Canolfan Gymunedol Croeserw i'r gymuned ei ohirio er mwyn caniatáu i drafodaethau barhau â'r gymuned.
• Caiff mwy o waith ei wneud i ganfod cyfleoedd creu incwm ac arbedion yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu Cymraeg.
• Bydd y cynnydd mewn prisiau ar gyfer cynnal tiroedd ysgol yn cael ei gyfyngu i chwyddiant.
• Mae'r dybiaeth wreiddiol y byddai Treth y cyngor yn cynyddu 5% wedi'i leihau, a chynigir bellach y bydd Treth y Cyngor ar Fand D yn cynyddu 4% yn unig - rhagwelir mai dyma'r trydydd cynnydd canrannol isaf o bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Cyflwynir y cynigion diwygiedig i Gabinet y cyngor ar 13 Chwefror i'w hystyried.
Mewn adroddiad ar wahân, bydd Amgueddfa Glofa Cefn Coed yn derbyn buddsoddiad gwerth £250,000 i gefnogi ei datblygiad ehangach fel rhan o'r Rhaglen Gyfalaf. Mae hyn yn hanfodol i roi ail flwyddyn y strategaeth y cytunwyd arni ym mis Chwefror 2018 ar waith, a bydd y cyngor yn ymgynghori ac yn gweithio gyda Chyfeillion yr Amgueddfa i nodi cyfleoedd creu incwm a chyfraniadau gwirfoddol i leihau cymhorthdal y cyngor £5,000.
- Diwedd -
More stories