Neath Port Talbot Council has agreed to adopt the Welsh Government’s Code of Practice for Ethical Employment in Supply Chains.
The overarching aim of the Code is to support public sector organisations to tackle illegal and unfair employment practices within its supply chains across Wales and further afield.
The code's 12 commitments cover a range of employment issues such as modern slavery and human rights abuses, ensuring that employees are not discriminated against if they join a trade union, false self-employment, unfair use of umbrella schemes and zero hours contracts, and paying the Living Wage.
The Council, which spends in excess of £140 million a year on goods and services, already carries out many of the actions identified in the Code.
Councillor Doreen Jones, Cabinet Member for Corporate Services and Equality, said:
“I am pleased that the Council has agreed to adopt the Code of Practice.
“As a Council, we are strongly committed to the wellbeing of all those who deliver services to the public, whether they are employed directly or through our supply chain. We will continue to work closely with our partners to promote and develop good employment practices which empower and reward workers.”
The Code will be imbedded into the Council’s existing Ethical Employment in Supply Chains Policy.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Y cyngor yn mabwysiadu côd cyflogaeth foesegol ar gyfer ei gadwyni cyflenwi
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cytuno i fabwysiadu Côd Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.
Nod trosgynnol y côd yw cefnogi sefydliadau sector cyhoeddus i fynd i'r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg yn eu cadwyni cyflenwi ar draws Cymru ac ymhellach i ffwrdd.
Mae 12 o ymrwymiadau'r côd yn cynnwys nifer o broblemau cyflogaeth megis caethwasiaeth fodern a cham-drin hawliau dynol, gan sicrhau nad yw gweithwyr yn derbyn triniaeth wahaniaethol os ydynt yn ymuno ag undeb llafur, hunan-gyflogaeth ffug, defnydd annheg o gynlluniau mantell a chontractau dim oriau, a thalu'r Cyflog Byw.
Mae'r cyngor, sy'n gwario dros £140 miliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau, eisoes yn cymryd llawer o'r camau gweithredu a nodwyd yn y côd.
Meddai'r Cyng. Doreen Jones, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb,
"Rydw i'n falch bod y cyngor wedi dewis mabwysiadu'r Côd Ymarfer.
"Fel cyngor, rydym yn ymrwymedig iawn i les yr holl bobl sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd, p'un a ydynt yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol neu trwy gadwyn gyflenwi. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid er mwyn hyrwyddo a datblygu arferion cyflogaeth da sy'n grymuso ac yn gwobrwyo gweithwyr."
Bydd y côd yn cael ei wreiddio ym Mholisi Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi'r cyngor sydd eisoes yn bodoli.
Penderfynwyd mabwysiadu'r côd yn ystod cyfarfod Cabinet y cyngor ddydd Mercher 23 Ionawr 2019.
More stories