The streets of Neath will be packed this weekend when the town’s annual Real Ale and Cider Festival gets under way.
Latest footfall figures show that last weekend, during Neath’s annual Music Festival, nearly 100,000 people filled the streets of the town.
For this weekend’s Real Ale and Cider Festival, more than 40 tasty real ales and ciders will be on offer at the festival’s base in Neath Town Hall from Friday, July 19th to Saturday, July 20th (12 midday to 11pm).
Tickets for the festival, organised by the Neath Town Centre Consortium, are £5.50 on the door or £5 booked in advance from the Gwyn Hall.
Those who buy a ticket for the Friday event will be entitled to free entry for the Saturday event (provided they are still wearing the wristband issued for entry to the Town Hall on Friday).
Many pubs, clubs, cafes and bars are involved in the festival via the “Real Ale Trail”. These include The Cross Keys, The Greyhound, The Allan Leonard Lewis, The Gwyn Hall, 10/21, Charlie’s Bar and Grill, Moruzzi and Co., Neath RFC, The Big Cam and The David Protheroe.
On Saturday, there will also be live music in Angel Square from Santa Cruz and Like a Lion and a stall selling bottled ales, ciders and different types of prosecco.
Coles the Butchers will also have a stall selling its renowned pulled pork.
Among the many ciders on offer will be Hallets Heartbreaker, Oak-y-Dokey and Pig Swill from Afal y Graig and Dog Dancer from Gwynt y Ddraig while among the long list of ales at the festival will be Cherry Bomb from Neath Ales, Mumbles Gold from the Mumbles Brewery, Gower Power from the Gower Brewery, Mosaic Pale Ale (Grey Trees) and Golden Goat (Little Goat Brewery).
The Real Ale and Cider Festival is just one of a string of popular events held in Neath’s town centre which help provide a boost in footfall.
Other events include the Neath Comedy Festival (held annually in June), Neath Music Festival (held successfully last weekend when the town recorded footfall figures of 96,961), Neath September Fair (September 11th – 14th), The Neath Food and Drink Festival (October 4th – 6th) and the Neath “Christmas Lights On” Festival (29th November) which this year will include a Christmas Fayre.
Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Regeneration and Sustainable Development, Cllr Annette Wingrave, said: “Neath is a lively town with a good mix of shops, restaurants, bars, cafes and a lot more. Regular fixtures such as the Real Ale and Cider Festival bring a boost to footfall and I’m sure everyone is looking forward to this year’s event.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Strydoedd Castell-nedd yn llenwi eto – ar gyfer Gwyl Gwrw a Seidr flynyddol y dref y tro hwn!
Bydd strydoedd Castell-nedd dan eu sang dros y penwythnos wrth i Wyl Gwrw a Seidr flynyddol y dref ddigwydd unwaith eto.
Bydd mwy na 40 math o gwrw go iawn a seidr yn cael eu cynnig yn yr wyl, a gynhelir yn Neuadd y Dref Castell-nedd o ddydd Gwener, 19 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn, 20 Gorffennaf (hanner dydd tan 11pm). Pris tocynnau ar gyfer yr wyl, a drefnir gan Gonsortiwm Canol Tref Castell-nedd, yw £5.50 ar y drws neu £5 o’u harchebu ymlaen llaw o Neuadd Gwyn.
Bydd unrhyw un sy’n prynu tocyn ar gyfer digwyddiad dydd Gwener yn cael mynediad am ddim ar gyfer dydd Sadwrn (ar yr amod eu bod yn dal i wisgo’r band arddwrn a roddwyd iddynt i gael mynediad i Neuadd y dref ar y dydd Gwener).
Mae sawl tafarn, clwb, caffi a bar yn cymryd rhan yn yr wyl, drwy gyfrwng y “Llwybr Cwrw Go Iawn”. Yn eu plith mae’r Cross Keys, y Greyhound, yr Allan Leonard Lewis, Neuadd Gwyn, 10/21, Charlie’s Bar and Grill, Moruzzi and Co., Clwb Rygbi Castell-nedd, y Big Cam a’r David Protheroe.
Ar ddydd Sadwrn bydd cerddoriaeth fyw yn cael ei berfformio yn Sgwâr yr Angel gan Santa Cruz a Like a Lion, a bydd stondin yno’n gwerthu cwrw a seidr mewn poteli a gwahanol fathau o prosecco.
Bydd gan Coles y Cigydd stondin yno hefyd yn gwerthu’i borc rhwyll enwog.
Ymhlith nifer o fathau o seidr fydd ar gael, bydd Hallets Heartbreaker, Oak-y-Dokey a Pig Swill gan Afal y Graig a Dog Dancer gan Gwynt y Ddraig, ac ymysg y rhestr hir o gwrw go iawn, bydd Cherry Bomb gan Neath Ales, Gower Power gan Fragdy Gwyr, Mosaic Pale Ale (Grey Trees) a Golden Goat (Little Goat Brewery).
Dim ond un o gyfres o ddigwyddiadau poblogaidd fydd yn digwydd yng nghanol tref Castell-nedd w’r Wyl Gwrw a Seidr, a fydd yn helpu i ddenu pobl i’r dref.
Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys Gwyl Gomedi Castell-nedd (a gynhelir yn flynyddol ym mis Mehefin), Gwyl Gerddoriaeth Castell-nedd (a gynhaliwyd yn llwyddiannus penwythnos diwethaf), Ffair Fedi Castell-nedd (Medi 11-14), Gwyl Fwyd a Diod Castell-nedd (Hydref 4-6) a Gwyl Gynnau Goleuadau Nadolig Castell-nedd (29 Tachwedd) a fydd yn cynnwys Ffair Nadolig eleni.
Meddai Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, y Cynghorydd Annette Wingrave: “Mae Castell-nedd yn dref fywiog, sy’n cynnig cymysgedd dda o siopau, bwytai, bariau, caffis a llawer mwy. Mae digwyddiadau rheolaidd fel yr Wyl Gwrw a Seidr yn peri i fwy o bobl ddod i’r dref, ac rwy’n siwr fod pawb yn edrych ymlaen at ddigwyddiad eleni.”
More stories