Neath Port Talbot Council’s “Working With Nature” Project has organised a walking festival to allow people to enjoy the rich history and nature of the Neath, Tennant and Swansea canals this summer.
The 12 family friendly walks which take place during the festival, from August 1st – 4th, are a mixture of challenging, intermediate, moderate and easy, so those of all fitness levels can get involved.
The different walks will give those taking part the chance to visit an area inhabited by Britain’s biggest spider (The Fen Raft Spider), to get involved in a litter pick, to explore the wide range of heritage and beautiful natural sites around the canals, including Craig Gwladus Country Park, and to enjoy picnics and other activities on the waterside.
Booking is essential. To book your place please e-mail tourism@npt.gov.uk or telephone 01639 686417. Alternatively, please send a direct message to Visit Neath Port Talbot via Facebook.
The walks are:
Thursday
1/08/19, 10am – 3pm, (length of walk) 10- 11km : Neath and Resolven Ramble Loop. Starting at Resolven canal basin car park, the walk takes in the Neath Canal from Resolven to Cwmgwrach. Explore the countryside and local nature. (Challenging).
1/08/19, 10.30am - 12midday, 1.5km-3km : Neath Canal Heritage Walk. Starting at Aberdulais and going to the centre of Neath, this walk will go through multiple points of interest. (Easy).
1/08/19, 2 - 4pm, 3km: Neath Canal Yoga Walk. Starting at the Resolven Canal basin car park, walkers will go alongside the canal towards Glynneath, taking advantage of open spaces to do user friendly yoga. (Easy).
1/08/19, 6 – 8 pm, 1.5 – 3km, Tennant Canal Fen Raft Spider Walk. Walkers will enter a nature reserve and following a route along the Tennant Canal, looking for Fen Raft Spiders, the biggest native spiders in the UK, which hunt on the surface of waterways. (Intermediate).
Friday
2/08/19, 10am – 3pm, 8km, Swansea Canal Nature Loop. Starting at the Pontardawe by-pass car park, walkers will take in urban fringe, canal side, golf course, woodland and residential roads. (Challenging).
2/08/19, 10.30am – 12 midday, 1km, Family Storytelling Walk. Walking alongside the Neath Canal towards Glynneath our story teller will stop at various points to continue weaving tales while there will also be time for games. Family orientated, wheelchair friendly, no dogs. (Easy).
2/08/19, 2 - 4pm, 3km, Neath Canal Photography. Starting at Resolven, this walk will take advantage of beautiful countryside and stunning nature sightings alongside the canal, allowing walkers to hone their photography skills. (Easy).
2/08/19, 6pm – 8pm, 6km. Neath Canal and Craig Gwladus Heritage Walk. Meet outside Aberdulais Falls and enjoy a fascinating walk into the heart of Craig Gwladus Country Park. Involves some steep climbs. (Challenging).
Saturday
3/08/19, 10.30am – 1.30pm, 3.35km, Tennant Canal Heritage Walk. Meet at Compton Road and walk alongside the Tennant Canal to Neath Abbey then the old Iron Works. (Moderate).
3/08/19, 10.30am – 12 midday, 1 – 2km, Neath Canal Litter Pick. Heading from Castle Surgery alongside the Neath Canal into the centre of Neath, picking up litter on the way. (Easy).
3/08/19, 1.30pm – 4.30pm, 8 – 10km, Resolven Nature Walk. A long exploration from Resolven to Neath and back, following then canal. (Moderate).
Sunday
4/08/19, 10.30am – 1.30pm, 1 – 2km, Canal Leisure and Cooking Walk. A walk alongside Neath Canal from Resolven to Neath with the chance to stop, play and take a picnic alongside the canal. Food provided, activities and games included. (Easy).
Cllr Annette Wingrave, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Regeneration and Sustainable Development said: “This is a fantastic opportunity for people to get out and about in our wonderful countryside and alongside our historic canals.”
The Working With Nature project is run by the Countryside and Wildlife team of NPTC and supported by the Welsh Government Rural Communities RDP which is jointly funded by the European Union as part of the Common Agricultural Policy through the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Neilltuwch eich lle nawr! Gwyl gerdded hwylus i’r teulu
Mae Prosiect Cyngor Castell-nedd Port Talbot “Gweithio gyda Natur” wedi trefnu gwyl gerdded i roi cyfle i bobl fwynhau cyfoeth hanes a byd natur camlesi Nedd, Tenant a Thawe yr haf yma.
Bydd y 12 taith gerdded hwylus i deuluoedd a drefnir yn ystod yr wyl, o 1-4 Awst, yn gyfuniad o rai heriol, canolig, cymedrol a hawdd, felly byddwch chi’n gallu ymuno, beth bynnag yw eich lefel ffitrwydd.
Bydd y gwahanol deithiau cerdded yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan ymweld ag ardal lle mae corryn mwyaf Prydain yn byw (Corryn Rafft y Ffen), i ymwneud â chasglu sbwriel, i archwilio’r ystod eang o safleoedd treftadaeth a natur hardd o amgylch y camlesi, gan gynnwys Parc Gwledig Craig Gwladus, ac i fwynhau picnic a gweithgareddau eraill ar lan y dwr.
Rhaid cadw lle, a gallwch wneud hynny trwy e-bostio tourism@npt.gov.uk neu ffonio 01639 686417. Fel arall, anfonwch neges uniongyrchol i Ymweld â Chastell-nedd Port Talbot drwy Facebook.
Dyma’r teithiau cerdded:
Dydd Iau
1/08/19, 10am – 3pm, (hyd y daith) 10-11km: Taith Gylchol Crwydro Nedd a Resolfen. Bydd y daith gerdded yn cychwyn o faes parcio basn camlas Resolfen, ac yn dilyn Camlas Nedd o Resolfen i Gwmgwrach. Cyfle i archwilio cefn gwlad a byd natur yn lleol. (Heriol)
1/08/19, 10.30am – 12 ganol dydd, 1.5km-3km: Taith Gerdded Treftadaeth Camlas Nedd. Bydd y daith gerdded hon yn cychwyn o Aberdulais ac yn mynd i ganol Castell-nedd, gan fynd heibio llawer o fannau diddorol ar hyd y ffordd. (Hawdd)
1/08/19, 2 - 4pm, 3km: Taith Gerdded Yoga Camlas Nedd. Bydd y cerddwyr yn cychwyn o faes parcio basn y Gamlas yn Resolfen, ac yn teithio ar hyd y gamlas i gyfeiriad Glyn-nedd, gan fanteisio ar y mannau agored i wneud yoga hwylus. (Hawdd)
1/08/19, 6 – 8 pm, 1.5 – 3km, Taith Gerdded Corryn Rafft y Ffen – Camlas Tenant. Bydd y cerddwyr yn mynd i warchodfa natur ac yn dilyn llwybr ar hyd Camlas Tenant, yn chwilio am Gorryn Rafft y Ffen, corryn brodorol mwyaf y Deyrnas Unedig, sy’n hela ar wyneb dyfrffyrdd. (Canolig)
Dydd Gwener
2/08/19, 10am – 3pm, 8km, Dolen Natur Camlas Tawe. Bydd y cerddwyr yn cychwyn o faes parcio ffordd osgoi Pontardawe, ac yn teithio ar hyd cyrion y dref, ochr y gamlas, cwrs golff, coetir a ffyrdd preswyl. (Heriol)
2/08/19, 10.30am – 12 ganol dydd, 1km, Taith Gerdded Adrodd Storïau i’r Teulu. Wrth gerdded ar hyd Camlas Nedd i gyfeiriad Glyn-nedd bydd ein storïwr yn aros mewn ambell fan i adrodd ei hanesion, a bydd cyfle i chwarae gêmau yn ogystal. Addas i deuluoedd, hwylus i gadeiriau olwyn, dim cwn. (Hawdd)
2/08/19, 2 - 4pm, 3km, Ffotograffiaeth Camlas Nedd. Yn cychwyn o Resolfen, bydd y daith gerdded hon yn manteisio ar harddwch cefn gwlad a golygfeydd ysgubol byd natur wrth ochr y gamlas, fel bod y cerddwyr yn cael mireinio’u sgiliau ffotograffiaeth. (Hawdd)
2/08/19, 6pm – 8pm, 6km. Taith Gerdded Treftadaeth Camlas Nedd a Chraig Gwladus. Cwrdd y tu allan i Raeadrau Aberdulais a mwynhau taith gerdded ddiddorol i ganol Parc Gwledig Craig Gwladus. Bydd peth dringo serth. (Heriol)
Dydd Sadwrn
3/08/19, 10.30am – 1.30pm, 3.35km, Taith Gerdded Treftadaeth Camlas Tenant. Cwrdd wrth Heol Compton a cherdded ar hyd Camlas Tenant i Fynachlog Nedd ac yna i’r hen Waith Haearn. (Cymedrol)
3/08/19, 10.30am – 12 ganol dydd, 1 – 2km, Casglu Sbwriel ar hyd Camlas Nedd. Mynd ar hyd Camlas Nedd o Feddygfa’r Castell i ganol Castell-nedd, gan gasglu sbwriel ar y ffordd. (Hawdd)
3/08/19, 1.30pm – 4.30pm, 8 – 10km, Taith Gerdded Natur Resolfen. Taith archwilio hir o Resolfen i Gastell-nedd ac yn ôl, gan ddilyn y gamlas. (Cymedrol)
Dydd Sul
4/08/19, 10.30am – 1.30pm, 1 – 2km, Taith Gerdded Hamdden a Choginio wrth y Gamlas. Taith gerdded yn ymyl Camlas Nedd o Resolfen i Gastell-nedd, gyda chyfle i aros, chwarae a chael picnic yn ymyl y gamlas. Bydd bwyd yn cael ei ddarparu, a bydd gweithgareddau a gêmau’n gynwysedig. (Hawdd)
Dywedodd y Cyng. Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Adfywio a Datblygu Cynaliadwy: “Mae hwn yn gyfle gwych i bobl fynd allan a mwynhau hyfrydwch cefn gwlad, yn ymyl ein camlesi hanesyddol.”
Mae prosiect Gweithio gyda Natur yng ngofal tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cyngor CNPT, ac yn cael ei gefnogi gan Gynllun Datblygu Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymunedau Gwledig, sy’n cael ei ariannu’n rhannol trwy’r Undeb Ewropeaidd fel rhan o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
More stories