Organisers of the 2019 Neath Food and Drink Festival are putting the final touches to this year’s mouth-watering event.
The annual festival, running from Friday, October 4th to Sunday, October 6th 2019, is one of a string of popular events held in Neath’s vibrant town centre which all help provide regular boosts in footfall.
Other events include the Neath Comedy Festival (held annually in June), Neath Music Festival (held successfully earlier this year when the town recorded footfall figures of 96,961), Neath Fair, one of the oldest of its kind in the World, (second week in September), the Neath Real Ale and Cider Festival (held this year July 19th – 20th) and the Neath “Christmas Lights On” Festival (29th November) which will this year include a Christmas Fayre.
The Neath Food and Drink Festival was born in 2009 and has since established itself as one of the premiere events in Neath Town Centre's busy calendar. Over the years, the festival has highlighted the variety of high quality Welsh produce that is available locally and focuses on the range of products available from award winning suppliers in the town’s Victorian Market plus surrounding areas.
As well as providing a stage for the exhibiting stall holders, the festival is an excellent opportunity for the established town centre shops, restaurants and cafés to showcase their products to a wider audience.
Held over three days, the Neath Food and Drink Festival this year welcomes around 70 exhibitors. The festival also includes Street Food Zones in Angel Square and Neath Square. There will be entertainment in pubs, cafes and restaurants together with street entertainment and much more.
Joining the festival for the first time this year will be Greek Souvlaki with their traditional souvlaki – said to be the food of the Gods of Olympus. All chargrilled! There will be meat, vegetarian, vegan, gluten free and dairy free options.
Also, keeping people refreshed this year will be Dachael’s Bar, the ultimate food festival bar bringing visitors cold lager and cider, ales straight from the cask and some amazing cocktails and Prosecco. The bar will be fully stocked with a full range of Gins including their amazing shimmering gins that will blow your taste buds away.
And a festival favourite will return, Good and Proper Brownies - a small family company which makes delicious brownies in a variety of flavours. All ingredients are locally sourced within one mile of the company’s West Wales kitchen.
Faithfull's Quality Baking will be back this year with their traditional Christmas puddings which are available in three flavours. Why not go for the boozy orange Christmas pudding using Da Mhile orange 33 liquor made in Wales, or perhaps a cherry and kirsch Christmas pudding - a real show stopper.
Councillor Annette Wingrave, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Regeneration and Sustainable Development, said: “This festival is one of a number of events which regularly add vitality to what is already a busy town centre in Neath. I’m sure everyone is looking forward to this year’s Neath Food and Drink Festival.”
Courtesy of Neath Inspired, parking during the festival is free from 10.00am for all town centre NPTCBC car parks including the multi-storey, Milland Road and smaller car parks in the town centre.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Gwyl Fwyd a Diod Castell-nedd ar fin digwydd
Mae trefnwyr Gwyl Fwyd a Diod Castell-nedd 2019 wrthi’n rhoi’r darnau olaf yn eu lle ar gyfer digwyddiad blasus eleni.
Mae’r wyl flynyddol, sy’n digwydd rhwng dydd Gwener 4 Hydref tan ddydd Sul 6 Hydref 2019, yn un o gyfres o ddigwyddiadau poblogaidd sy’n cael eu cynnal yng nghanol tref fywiog Castell-nedd, a’r cyfan yn helpu i ddenu pobl i mewn i’r ardal.
Ymhlith digwyddiadau eraill mae Gwyl Gomedi Castell-nedd (a gynhelir yn flynyddol ym mis Mehefin), Gwyl Gerddoriaeth Castell-nedd (a gynhaliwyd yn llwyddiannus ynghynt eleni pan gofnodwyd fod 96,961 o bobl wedi dod i’r dref), Ffair Castell-nedd, un o’r hynaf o’i bath yn y byd (ail wythnos ym mis Medi), Gwyl Gwrw a Seidr Castell-nedd (a gynhaliwyd eleni ar 19 a 20 Gorffennaf) a Gwyl Cynnau Goleuadau Nadolig Castell-nedd (29 Tachwedd) a fydd yn cynnwys Ffair Nadolig eleni.
Ganwyd Gwyl Fwyd a Diod Castell-nedd yn 2009, ac ers hynny mae wedi hen ennill ei phlwyf fel un o brif ddigwyddiadau calendr prysur canol tref Castell-nedd. Dros y blynyddoedd, mae’r wyl wedi rhoi sylw i amrywiaeth o gynnyrch o safon uchel sydd ar gael yn lleol, ac mae’n canolbwyntio ar yr ystod o gynnyrch sydd ar gael gan gyflenwyr arobryn ym Marchnad Fictoraidd y dref, ynghyd â’r ardaloedd cyfagos.
Yn ogystal â rhoi llwyfan i’r stondinwyr sy’n arddangos eu cynnyrch, mae’r wyl hefyd yn gyfle rhagorol i’r siopau, bwytai a chaffis a geir yng nghanol y dref i arddangos eu cynnyrch i gynulleidfa ehangach.
Eleni, bydd Gwyl Fwyd a Diod Castell-nedd, a gynhelir dros dridiau, yn croesawu tua 70 o arddangoswyr. Mae’r wyl hefyd yn cynnwys Parthau Bwyd Stryd yn Sgwâr Angel a Sgwâr Castell-nedd. Cynhelir adloniant mewn tafarndai, caffis a bwytai, ynghyd ag adloniant stryd a llawer mwy.
Bydd Greek Souvlaki yn ymuno â’r wyl eleni am y tro cyntaf, gyda’u souvlaki traddodiadol – dyma oedd bwyd Duwiau Olympws, yn ôl y sôn. Y cyfan wedi cael ei ruddo (chargrilled)! Bydd dewisiadau cig, llysieuol, figan, di-glwten a di-laeth.
Yn ogystal bydd Dachael's Bar yn torri syched pobl eleni, wrth i’r bar gwyl fwyd ddelfrydol weini lager oer, seidr a chwrw yn syth o’r gasgen, ynghyd â choctêls anhygoel a Prosecco. Bydd gan y bar ddetholiad llawn o Gin amrywiol, gan gynnwys eu gin pefr rhyfeddol, a fydd yn ffrwydro eich tafod.
A bydd un o ffefrynnau’r wyl yn dychwelyd – Good & proper Brownies ?, cwmni teuluol bach sy’n paratoi brownis blasus mewn amrywiaeth o flasau. Ffynnonellir pob cynhwysyn yn lleol, o fewn milltir i gegin y cwmni yng Ngorllewin Cymru.
Bydd Faithfull's Quality Baking yn dychwelyd eleni gyda’u pwdinau Nadolig traddodiadol, ar gael mewn tri blas. Beth am ddewis y pwdin Dolig oren llawn alcohol sy’n defnyddio gwirod oren 33 Da Mhile, a wnaed yng Nghymru, neu efallai bwdin Dolig ceirios a kirsch – yn sicr o gael pawb ar eu traed o gwmpas y bwrdd Nadolig.
Meddai’r Cynghorydd Annette Wingrave, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot dros Adfywio a Datblygu Cynaliadwy: “Mae’r wyl hon yn un o blith nifer o ddigwyddiadau sy’n ychwanegu bywiogrwydd yn rheolaidd i dref, Castell-nedd, sydd eisoes yn brysur. Rwy’n siwr fod pawb yn edrych ymlaen at Wyl Fwyd a Diod Castell-nedd eleni.”
More stories