The introduction of a black bag “presentation area” at Neath Port Talbot Council’s Briton Ferry Household Waste Recycling Centre (HWRC) has been a major success.
Figures show more than eight times less waste went into the Briton Ferry site in the eight months after the new arrangements were brought in compared to the previous eight months.
Neath Port Talbot Council is offering a big ‘thank you’ to residents for the way they have responded to the new presentation area with figures showing 1,027 tonnes of waste was brought into the Briton Ferry HWRC from April to November 2018 while only 126.5 tonnes came in from December 2018 to July 2019.
Under the new arrangements, brought in at the end of November 2018, residents arriving at the centre with black bags or general waste are being asked to remove recyclable items - with users of the centre being asked to “sort their waste before bringing it”.
Previous analysis had shown more than 60% of the contents of black bags taken to HWRCs contained materials that could have been recycled.
The presentation areas, (they are also in operation at Cymmer and Lower Cwmtwrch HWRCs) are part of a range of changes being brought in to ensure the Council meets tough recycling targets set by the Welsh Government requiring us all to recycle 64% of waste by 2019/20 and 70% by 2025.
People in Neath Port Talbot currently recycle just under 64% of their waste - helping make Wales the fourth highest recycling country in the world (according to figures from Eunomia Research and Consulting).
Cllr Ted Latham, Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Streetscene and Engineering, said: “The whole world is recycling more now with Wales one of those leading the way and the Council wants to thank our residents for responding so well to the introduction of presentation areas at our recycling centres.
“Recycling saves energy and water, lowers pollution and greenhouse gas emissions, improves air and water quality, preserves landfill space and conserves natural resources. It also helps prevent plastics polluting and killing wildlife in our precious oceans and rivers.
“The whole world is recycling more - with Wales helping lead the way and we are playing our part.”
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
‘Diolch yn fawr’ i drigolion Castell-nedd Port Talbot am lwyddiant y bagiau du
Mae cychwyn “ardal gyflwyno” bagiau du yng Nghanolfan Ailgylchu Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Llansawel ar gyfer Gwastraff o’r Cartref wedi bod yn llwyddiant mawr.
Mae’r ffigurau’n dangos bod dros wyth gwaith yn llai o wastraff wedi mynd i’r safle yn Llansawel yn ystod yr wyth mis wedi i’r trefniadau newydd gael eu cyflwyno, o gymharu â’r wyth mis blaenorol.
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot am ddweud ‘diolch yn fawr’ wrth y trigolion am eu hymateb i’r ardal gyflwyno newydd, gan fod y ffigurau’n dangos bod 1,027 tunnell o wastraff wedi dod i Safle Llansawel rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2018, ond dim ond 126.5 tunnell ddaeth yno rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.
O dan y trefniadau newydd, a gyflwynwyd ddiwedd mis Tachwedd 2018, mae trigolion sy’n cyrraedd y ganolfan gyda bagiau du neu wastraff cyffredinol yn cael cais i dynnu eitemau i’w hailgylchu allan – a gofynnir i ddefnyddwyr y ganolfan “ddidoli eu gwastraff cyn dod ag e”.
Roedd dadansoddiad blaenorol wedi dangos bod mwy na 60% o gynnwys bagiau du oedd yn mynd i safleoedd gwastraff o’r cartref yn cynnwys deunydd a allai fod wedi cael ei ailgylchu.
Mae’r ardaloedd cyflwyno (sydd hefyd ar waith yn Safleoedd y Cymer a Chwmtwrch Isaf) yn rhan o ystod o newidiadau sy’n cael eu cyflwyno i sicrhau bod y Cyngor yn cyrraedd targedau ailgylchu heriol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n gofyn bod pawb ohonom yn ailgylchu 64% o’n gwastraff erbyn 2019/20 a 70% erbyn 2025.
Ar hyn o bryd mae pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ailgylchu ychydig o dan 64% o’u gwastraff – sy’n helpu i sicrhau mai Cymru sydd yn y pedwerydd safle yn y byd o ran gwledydd sy’n ailgylchu (yn ôl ffigurau Eunomia Research and Consulting).
Dywedodd y Cyng. Ted Latham, Aelod Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer y Strydlun a Pheirianneg: “Mae’r byd cyfan yn ailgylchu mwy nawr, ac mae Cymru’n un o’r rhai sy’n arwain y ffordd. Hoffai’r Cyngor ddiolch i’n trigolion am ymateb cystal i’r ardaloedd cyflwyno newydd yn ein canolfannau ailgylchu.
“Mae ailgylchu’n arbed ynni a dwr, yn gostwng lefelau llygredd ac allyriadau nwyon ty gwydr, yn gwella ansawdd aer a dwr, yn cadw lle mewn safleoedd tirlenwi ac yn arbed adnoddau naturiol. Mae hefyd yn helpu i atal plastig rhag llygru a lladd bywyd gwyllt yn ein moroedd a’n hafonydd gwerthfawr.
“Mae’r byd cyfan yn ailgylchu mwy – mae Cymru’n helpu i arwain y ffordd ac rydym ninnau’n gwneud ein rhan.” More stories