The proprietor of a Neath Port Talbot based takeaway has been convicted of serious breaches of food safety legislation, including failure to properly register as a food business.
Mr Mohammed Motiur Rahman, 45, of Taj Mahal Spice, Windsor Road, Neath, SA11 1NH pleaded guilty to failing to properly register the food business and a further eight food hygiene offences at Swansea Magistrates Court on 22nd October 2019 resulting in fines and costs totalling £6,030 being imposed.
Neath Port Talbot Environmental Health Officers inspected Taj Mahal Spice during the evening of 5th September 2018, and found the premises to be dirty and without a supply of hot water at the sinks or wash hand basins.
Additionally, food was at risk of contamination and equipment and surfaces were not being adequately disinfected. Due to the extent of the hygiene failures the business closed immediately.
During the inspection, the officer found the main kitchen to be in a “filthy” condition, with walls stained yellow with grease marks and dirty containers being used for food storage. Open foods were being illegally stored in the lobby outside the bathroom.
Management controls were extremely poor, with inadequate monitoring of food handling practices. Environmental Health Officers also served a fixed penalty notice for the non-display of a Food Hygiene Rating sticker following the inspection, resulting in a separate fine of £150.
Neath Port Talbot Council’s Cabinet Member for Community Safety and Public Protection, Cllr Leanne Jones, said: “We are committed to ensuring that businesses who put customers at risk face robust enforcement action.
“Proprietors have a duty to ensure they properly register and manage their business and protect food being served to the public from risk of contamination.”
A new food business operator registered at the premises on 2/10/19.
~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~
Têc-awe Taj Mahal Spice, Castell-nedd
Mae perchennog siop bwyd têc-awe yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael ei ddyfarnu’n euog o achosi toriadau difrifol i ddeddfau diogelwch bwyd, gan gynnwys methu â chofrestru’n gywir fel busnes bwyd.
Plediodd Mr Mohammed Motiur Rahman, 45, o Taj Mahal Spice, Heol Windsor, Castell-nedd, SA11 1NH yn euog i fethu â chofrestru’r busnes bwyd yn gywir ynghyd ag wyth achos pellach o droseddau hylendid bwyd yn Llys Ynadon Abertawe ar 22 Hydref 2019, gan arwain at osod dirwyon a chostau o gyfanswm o £6,030.
Archwiliwyd Taj Mahal Spice gan Swyddogion Iechyd Amgylcheddol Castell-nedd Port Talbot gyda’r nos ar 5 Medi 2018, a darganfuwyd fod yr eiddo’n frwnt, a heb gyflenwad o ddwr poeth yn y sinciau na’r basnau golchi dwylo.
Yn ogystal, roedd bwyd mewn perygl o gael ei heintio ac nid oedd yr offer a’r arwynebeddau’n cael eu diheintio’n ddigonol. Oherwydd bod y methiannau hylendid cynddrwg, caewyd y busnes ar unwaith.
Yn ystod yr archwiliad, canfu’r swyddog fod y brif gegin mewn cyflwr “mochaidd”, gyda waliau wedi’u staenio’n felyn â marciau saim a chynwysyddion brwnt yn cael eu defnyddio i storio bwyd. Roedd bwyd agored yn cael ei storio’n anghyfreithlon yn y cyntedd y tu allan i’r ystafell ymolchi.
Roedd gwiriadau rheoli’n eithriadol o wael, gyda monitro annigonol ar arferion trin bwyd. Cyflwynodd swyddogion Iechyd Amgylcheddol hysbysiad cosb penodol yn ogystal am fethu ag arddangos sticer Sgôr Hylendid Bwyd ar ôl yr archwiliad, gan arwain at ddirwy bellach o £150.
Meddai’r Cynghorydd Leanne Jones, Aelod Cabinet Castell-nedd Port Talbot dros Ddiogelwch Cymunedol a Gwarchod y Cyhoedd: “Rydym wedi ymrwymo i sicrhau fod busnesau sy’n peryglu cwsmeriaid yn wynebu gweithredu trylwyr i orfodi cydymffurfio.
“Mae gan berchnogion ddyletswydd i sicrhau eu bod nhw’n cofrestru a rheoli’u busnes yn gywir a’u bod yn gwarchod bwyd sy’n cael ei weini i’r cyhoedd rhag bod mewn perygl o gael ei heintio.”
More stories